Felly, mae’n hanfodol bod ymarfer da (a chydymffurfiaeth mewn llawer o achosion) yn cael ei arsylwi mewn perthynas â seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth. Os nad dyna’r achos, caiff eich sefydliad eich hun ei amlygu i risg … yn ogystal â’r parti rydych yn delio ag ef ac yn wir, eraill i fyny ac i lawr y gadwyn gyflenwi.
Y risgiau
- Mae’r ffaith y caiff data eu dal yn gynyddol ar gronfeydd data dosbarthedig ac ar wahân yn golygu y gallai bregusrwydd beryglu uniondeb y naill barti neu’r llall yn y trafodyn a hefyd y gadwyn gyfan.
- Pan gaiff data eu rhannu drwy e-bost neu byrth mynediad ar-lein, gallai’r ddau barti fod mewn perygl os cânt eu rhyng-gipio gan bersonau heb awdurdod – gan arwain at dwyll, dwyn hunaniaeth, dwyn eiddo deallusol, ysbïwriaeth, tanseilio, gwasgu, effaith ar refeniw, torri contract neu golli enw da.
- Caiff bregusrwydd ei gynyddu wrth i ragor o sefydliadau ymuno â’r gadwyn gyflenwi.
e-gaffael diogel
Un o elfennau hanfodol defnyddio e-gaffael yw seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth cadarn o fewn eich sefydliad. Dylech hefyd gofio y gall eich cyflenwwyr fabwysiadu arferion ac agweddau gwahanol i’r maes hwn, neu gallant beidio â gwneud hynny a dylid fetio hyn fel rhan o’r broses diwydrwydd dyladwy, ynghyd â chwsmeriaid sy’n gwneud trefniant pwrcasu electronig â chi.
Eich cyfrifoldeb chi fel cwsmer neu gyflenwr yw gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio lefelau da o ddiogelwch o ran diogelwch, gweithdrefnau ac arferion technegol ac ymddygiad cyflogeion.
Dylech hefyd sefydlu ar y pwynt cynharaf posibl wrth gael mynediad i gadwyn gyflenwi, fodolaeth, natur a lefel y diogelwch sy’n ofynnol (os o gwbl), a chytuno ar hyn neu ei drafod yn unol â’ch gofynion a’ch safonau eich hun, a gofynion a safonau eich partneriaid yn y gadwyn. Mae partneriaid mawr yn fwy tebygol o gael amodau llym, ond gall y rhain amrywio yn ôl maint a natur eich sefydliad a’i rôl yn y gadwyn. Mae’n bosibl bod un o lefelau ardystiad IASME neu Cyber Essentials yn dderbyniol.
Efallai y gallwch gyflawni safon dderbyniol – ac asesu safon eich partneriaid yn y gadwyn gyflenwi – yn fewnol neu gyda chymorth ymgynghorydd allanol. Bwriedir i’r cyngor a roddir ar y safle hwn eich helpu i benderfynu ar y meysydd i graffu arnynt ac mae’n rhoi gwybodaeth a chyngor sy’n benodol ar gyfer y meysydd hynny.