Y risgiau
- Dyfeisiau symudol yn cael eu colli neu eu dwyn – sy’n golygu bod angen rhai newydd yn eu lle ond hefyd y posibilrwydd o beryglu’r data ar y ddyfais.
- Maleiswedd – peryglu’r ddyfais ynghyd â dyfeisiau eraill y mae wedi’i chysylltu â nhw (yn cynnwys drwy e-bost) a’ch holl seilwaith TG a diogelwch eich prosesau a thrafodion busnes. Gall hyn fod o ganlyniad i lawrlwytho e-byst gwe-rwydo, ymweld â gwefannau sydd wedi’u heintio neu lawrlwytho apiau sydd wedi’u heintio.
- Peryglu diogelwch mewn mannau cyhoeddus drwy ddefnyddio Wi-Fi anniogel, neu bobl yn edrych dros eich ysgwydd/dros ysgwydd eich cyflogai.
- Peryglu diogelwch os na chaiff y ddyfais ei gwaredu’n gywir.
Yn eu tro, gall y rhain arwain at faterion eraill fel mathau amrywiol o dwyll, dwyn hunaniaeth, dwyn data, peryglu diogelwch cyflogai, colli enw da, diffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau data a hyd yn oed flacmêl neu gael eich dal yn wystl (corfforaeth neu unigolyn).
Cyngor ar ddefnyddio dyfeisiau symudol
- Dylid gwneud pawb sy’n defnyddio dyfais symudol cwmni (neu sydd ag awdurdod i ddefnyddio eu dyfais eu hunain) yn gyfrifol am eu hymddygiad a’u gweithredoedd.
- Dylid cynnwys y defnydd o ddyfeisiau symudol ar fusnes y cwmni, yn llawlyfr y cwmni.
- Gwnewch yn siŵr fod pob dyfais yn cael ei diogelu â PIN, sy’n anodd ei weithio allan ac sydd ond yn hysbys i’r person sy’n gyfrifol am y ddyfais (gydag eithriad y swyddogaeth cymorth TG a pherchennog y busnes o bosibl).
- Gwnewch yn siŵr fod pob dyfais wedi’i diogelu gan ap diogelwch ar y rhyngrwyd cydnabyddedig, ei fod wedi’i ddiweddaru pan fydd angen ac wedi’i alluogi bob amser.
- Ystyriwch feddalwedd diogelwch sy’n lleoli’r ddyfais os caiff ei cholli/dwyn, sy’n analluogi ei gweithrediad, sy’n seinio larwm, sy’n anfon ffotograff o’r person sy’n rhoi PIN anghywir neu lu o nodweddion arloesol eraill dyfeisiau heddiw.
- Gwnewch yn siŵr fod defnyddwyr dyfeisiau symudol yn llwyr ymwybodol o’r rhagofalon y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu eu dyfeisiau a’r wybodaeth a geir arnynt, yn cynnwys:
- Diogelu’r ddyfais mewn mannau cyhoeddus
- Gwneud yn siŵr fod y Wi-Fi yn ddiogel, neu ddefnyddio dongl data
- Bod yn wyliadwrus o bobl yn ‘syrffio dros ysgwydd’
- Cael polisïau llym ar ddefnydd diogel – yn cynnwys e-bost, defnydd o’r rhyngrwyd, rhwydweithio cymdeithasol ac apiau – er mwyn osgoi cael eich heintio gan faleiswedd.