Ni waeth faint rydych yn ymddiried yn y bobl sy’n gweithio i chi neu gyda chi, dyfeisiau personol sy’n creu un o’r risgiau mwyaf i system diogelwch gwybodaeth unrhyw sefydliad.
O ran perchenogaeth data, mae galluogi cyflogeion i roi data’r cwmni ar ddyfais bersonol yn golygu colli rheolaeth dros y data hynny, o gymharu â’u cadw yn ddiogel o fewn y cwmni … boed hynny mewn rhwydwaith, yn y cwmwl neu ar ddyfais symudol sy’n eiddo i’r cwmni.
Gall fod yn anodd monitro dyfais cyflogai yn effeithiol; gall fod yn anodd gwybod pa ddata a gaiff eu storio ar y ddyfais os caiff ei cholli neu ei dwyn; a phan fydd y cyflogai yn gadael, gallai fod yn amhosibl adalw’r data. Gall fod yn anodd amgryptio data personol ar ddyfais cyflogai … gan dorri’r Ddeddf Diogelu Data o bosibl. Yn ogystal, os yw’n ddyfais bersonol a ddefnyddir at ddibenion gwaith, bydd ardal lwyd ynghylch pwy sy’n darparu’r cymorth technegol ac yn talu amdano.
Y risgiau
- Cyflogai yn dwyn data cwmni.
- Data cwmni yn cael eu colli neu eu dwyn os caiff y ddyfais ei cholli neu ei dwyn.
- Cyflwyno maleiswedd i systemau cwmni mewn modd maleisus neu esgeulus.
- Colli cydymffurfiaeth â rheoliadau neu safonau eich diwydiant.
- Costau cynyddol ar gyfer cymorth technegol ar gyfer dyfeisiau ‘anhysbys’.
- Rhagori ar gyfyngiadau data pan fydd cyflogeion yn lawrlwytho ffeiliau mawr (fel ffilmiau) drwy rwydwaith y cwmni.
- Cyflogeion yn gwastraffu amser drwy fynd ar wefannau / defnyddio apiau ar ddyfeisiau personol.
- Cynhyrchion neu fersiynau o feddalwedd ddim yn gydnaws.
Cyngor ar ddyfeisiau personol yn y gwaith
- Penderfynwch a oes angen galluogi cyflogeion i ddefnyddio dyfeisiau personol yn y gweithle: a yw’r budd i’r busnes yn gorbwyso’r costau a’r risgiau?
- Os felly, penderfynwch i ba raddau y dylid galluogi cyflogeion i ddefnyddio dyfeisiau personol (mathau o ddyfais, at ba ddiben a chan bwy).
- Cynhaliwch asesiad risg a gwnewch yn siŵr fod digon o reolaethau ar waith er mwyn lleihau risgiau i’r busnes.
- Ystyriwch oblygiadau’r Ddeddf Diogelu Data.
- Gwnewch yn siŵr fod y defnydd o ddyfeisiau personol wedi’i gynnwys yn eich polisi ar ddefnydd derbyniol – er enghraifft mewn contractau cyflogeion a llawlyfrau staff.
- Ystyriwch weithredu un o’r nifer o ddatrysiadau rheoli dyfeisiau symudol sydd ar y farchnad heddiw.