Gallai eich meddalwedd gynnwys y canlynol:
Cynhyrchion Microsoft (naill ai mewn swp gyda system weithredu Windows neu wedi’u prynu ar wahân)
- Office (yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook)
- Media Player
- Publisher
- Project
- Dynamics CRM
- Visio
Microsoft yw’r meddalwedd cymwysiadau mwyaf cyffredin o’r math hwn, ond mae’r cyngor hwn yr un mor gymwys i wneuthurwyr meddalwedd eraill
Meddalwedd sydd wedi’i llwytho ymlaen llaw fel arfer (pan fyddwch yn prynu’r cyfrifiaduron)
- Adobe Reader
- Adobe Flash
- Oracle Java
- Roxio Creator
Cymwysiadau eraill, tasg-benodol, er enghraifft:
- Gyriannau argraffu
- Cyfrifon
- Diogelwch ar y rhyngrwyd
- Acrobat Distiller
Meddalwedd sy’n gysylltiedig â’ch sector busnes, er enghraifft:
- Tynnu llun / dylunio / trin delweddau
- Gweithgynhyrchu
- Cyfansoddi cerddoriaeth
- Ariannol / rhagolygon
Fel gyda systemau gweithredu, mae seibertroseddwyr yn dod o hyd i fannau bregus mewn meddalwedd arall ac yn parhau i wneud hynny drwy gydol oes y fersiwn. Mae’n fwy cyffredin mewn pecynnau prif ffrwd a ddefnyddir yn gyffredinol mewn sawl math o sefydliad, nag mewn rhaglenni arbenigol, sy’n benodol ar gyfer diwydiant.
Er mwyn atal hyn, mae gwneuthurwr meddalwedd yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd fel diweddariadau diogelwch neu ddiweddariadau hanfodol, sy’n amddiffyn rhag maleiswedd a dulliau o dorri diogelwch. Mae mathau eraill o ddiweddariadau yn cywiro gwallau sy’n gwella gweithrediad y feddalwedd, ac nid ydynt o reidrwydd yn ymwneud â diogelwch.
Y risgiau
Gall peidio â diweddaru eich meddalwedd arwain at broblemau difrifol, a all effeithio ar eich cyfrifiadur a’ch diogelwch personol eich hun. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Feirysau, ysbïwedd a maleiswedd arall.
- Ymyrraeth seiber sy’n arwain at droseddau fel twyll, dwyn hunaniaeth ac ysbïwriaeth.
- Chwalu, rhewi a pherfformiad gwael yn gyffredinol.
Yn ogystal â datrys problemau diogelwch, yn aml, mae diweddariadau meddalwedd yn cynnwys gwelliannau a nodweddion newydd.
Diogelu eich dyfeisiau
Fel arfer, byddwch yn cael hysbysiad gan wneuthurwr y feddalwedd ar ffurf hysbysiad ar eich sgrin, bod diweddariadau ar gael. Fel arfer, rhoddir y dewis ynghylch p’un a gaiff y diweddariad ei lawrlwytho a’i osod ar unwaith neu’n ddiweddarach. Ein hargymhelliad ni yw lawrlwytho a gosod diweddariadau cyn gynted â phosibl.
Mae rhai diweddariadau meddalwedd yn ei gwneud yn ofynnol i chi ailddechrau eich cyfrifiaduron er mwyn cwblhau’r broses osod. Eto, fel arfer, rhoddir y dewis ynghylch gwneud hyn ar unwaith neu’n ddiweddarach. Eto, rydym yn argymell i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Nid yw lawrlwytho’r diweddariadau meddalwedd diweddaraf yn dileu’r angen i redeg y fersiynau diweddaraf o feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a wal dân.