Dewis partner cymorth
- Gofynnwch i gydweithwyr, cyflenwyr, sefydliadau masnach a chwmnïau eraill pwy maen nhw’n ei ddefnyddio.
- Chwiliwch ar-lein am ‘Gymorth TG’ yn eich ardal.
Chwiliwch drwy gyfeiriaduron o arbenigwyr ardystiedig yn y dechnoleg y bydd angen cymorth ar ei chyfer. Er enghraifft, ar gyfer cynhyrchion Microsoft neu Apple, chwiliwch drwy eu cyfeiriadur o bartneriaid sy’n meddu ar gymwysterau fel Microsoft Certified Solutions Expert (MCSE) neu Apple Certified Support Proffesional (ACSP)
- Chwiliwch am y canlynol:
- Tystiolaeth o brofiad perthnasol.
- Rhywun a all eich helpu wrth i chi dyfu neu wrth i’ch anghenion newid.
- Pobl sy’n deall eich caledwedd a’ch meddalwedd.
- Cyfeiriadau ac argymhellion.
- Dealltwriaeth o fusnes yn ogystal â thechnoleg.
- Pobl a all siarad eich iaith, sy’n egluro problemau mewn ffordd rydych yn ei deall.
- Cwmnïau sydd â digon o adnoddau i ddiwallu eich anghenion.
Yng nghyd-destun cymorth seiberddiogelwch a gwybodaeth, os gallwch ddod o hyd i ddarparwr sy’n meddu ar y cymwysterau perthnasol ac sy’n aelod o gorff diwydiannol, gallech ddefnyddio’r darparwr hwnnw ar gyfer eich gofynion cymorth diogelwch TG a seiber / gwybodaeth.
Cytundebau cymorth
Mae angen cytundeb ysgrifenedig arnoch – neu gontract cyfreithiol – sy’n diffinio mewn Saesneg plaen:
- Beth yn union y bydd y darparwr cymorth yn ei wneud i chi – a beth maen nhw’n disgwyl i chi ei wneud eich hun.
- Amserlen ar gyfer unrhyw waith prosiect a gaiff ei gynnal, er enghraifft pa mor hir y bydd yn ei gymryd i osod gweinydd newydd neu ddadgomisiynu hen un yn llwyr.
- Cytundeb lefel gwasanaeth – pa mor gyflym y byddant yn ymateb i broblemau a’u datrys.
- Pa lefel o gymorth ar ôl gwerthu y gallwch ei ddisgwyl os yw cyflenwi cyfarpar yn rhan o’r cytundeb.
- Yn ddelfrydol, dadansoddiad cam wrth gam o unrhyw brosiect y byddant yn ei gynnal.
- Strwythur ac amcangyfrif clir o ffioedd, p’un a yw’n gyfradd sylfaenol neu’n seiliedig ar gyfradd ddyddiol