Dewis arbenigwr cymorth seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth
Mae nifer o sefydliadau hyfforddiant cydnabyddedig yn darparu cymwysterau ac achrediadau mewn cymorth seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth. Dim ond darparwyr sydd â’r cymwysterau priodol y dylech eu defnyddio, er enghraifft:
CISMP Tystysgrif mewn Arferion Rheoli Diogelwch Gwybodaeth,
CISSP Diogelwch Ardystiedig Proffesiynol Systemau Gwybodaeth neu SSCP Ymarferydd Ardystiedig Diogelwch Systemau
GICSP Seiberddiogelwch Diwydiannol Byd-eang Proffesiynol
Diogelwch Gwybodaeth (7550)
- Gan nifer o brifysgolion:
MSs mewn Diogelwch Gwybodaeth a graddau tebyg
Dylech hefyd holi am aelodaeth o gorff proffesiynol priodol fel y Sefydliad Diogelwch Gwybodaeth Proffesiynol (IISP)
Chwiliwch am gyfeiriadau ac argymhellion gan ffynonellau yr ymddiriedir ynddynt. Ceisiwch ymgynghori â safle cyfeirio a all ddilysu ansawdd ac effeithlonrwydd ei waith. Ewch i’w wefan, proffil LinkedInd a ffrwd Twitter.