Y risgiau
- Achosion o ddwyn data, colli data yn anfwriadol neu atgynhyrchu data heb awdurdod ar ddyfeisiau symudol (fel gliniaduron, llechi, ffonau clyfar a dyfeisiau USB cysylltiedig).
- Data yn cael ei anfon yn amhriodol dros e-bost.
- Data yn cael ei lanlwytho yn amhriodol i wefan, safle ftp neu storfa ar gwmwl.
- Data yn cael ei argraffu yn amhriodol.
- Data yn cael ei dynnu o’r cwmni ar CD neu DVD.
- Achosion anghyfreithlon o ddata yn cael eu symud, defnyddio, trosglwyddo neu werthu gan gyflogeion sy’n gadael neu gyflogeion llwgr neu’r rhai sy’n dal dig.
Diogelwch eich data
Mae nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio i ddiogelu eich data:
- Cynhaliwch ddadansoddiad risg drwy adolygu’r wybodaeth a gaiff ei storio ar rwydwaith y cwmni, yn y cwmwl ac ar ddyfeisiau unigol, pwy sydd â mynediad iddi a chanlyniad y golled.
- Sefydlu proses o ddosbarthu dogfennau er mwyn nodi categorïau cyfrinachedd.
- Rheoli pwy sydd â mynediad i ba ddata drwy bennu lefelau mynediad.
- Sefydlu a gorfodi polisïau clir ynghylch beth y gall cyflogeion ei wneud â data cyfrinachol neu sy’n hanfodol ar gyfer busnes. Addysgu’r gweithlu.
- Addysgu staff ar ddiwydrwydd ynghylch awdurdodi mynediad i ddata a’r sawl sy’n derbyn negeseuon e-bost a rhestrau o’r sawl sy’n cael eu copïo mewn negeseuon.
- Gwahardd neu gyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau symudol.
- Dadalluogwch byrth USB naill ai drwy ddulliau electronig neu ffisegol.
- Sefydlwch bolisi BYoD (Dod â’ch Dyfais Eich Hun).
- Amgryptio data corfforaethol.
- Ystyriwch brynu datrysiad Atal Colli Data masnachol.